Annwyl Delyth
Rwy'n poeni'n fawr am effeithiau'r toriadau dwfn yng nghyllidebau
pob un o'r sefydliadau cyhoeddus diwylliannol a gynllunir gan y
llywodraeth ar gyfer 2024-25. Y gair yw y bydd llawer iawn o
staff arbenigol yn debyg o colli eu swyddi, a y bydd llawer iawn o
wasanaethau yn dod i stop.
Deallaf fod pwyllgor y Senedd sy'n gyfrifol am ddiwylliant yn
bwriadu trafod y gyllideb ddrafft yn fuan. A fyddai'n bosibl
i chi fel cadeirydd y pwyllgor gyfleu fy ngofidiau (a gofidiau sawl
un arall, mae'n siwr) i'r aelodau?
Mae'r erthygl fer hon yn mynegi fy mhryderon:
Why is the Welsh Government at war with culture? :
gwallter
Cofion gorau,
Andrew Green.